Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 15 Hydref 2018

Amser: 13.21 - 16.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5035.tv/


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Rhianon Passmore AC

Adam Price AC

Jenny Rathbone AC

Tystion:

Shan Morgan, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans, Llywodraeth Cymru

Peter Kennedy, Llywodraeth Cymru

David Richards, Llywodraeth Cymru

Peter Ryland, WEFO

Swyddfa Archwilio

Cymru:

Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Matthew Mortlock

Richard Harries

Mark Jeffs

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Owen Holzinger (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC.

1.3              Gwnaeth Adam Price AC ddatganiad o fuddiant yn sgil y ffaith mai ef yw'r Comisiynydd sy'n gyfrifol am ieithoedd swyddogol y Cynulliad, ac am ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau i'r Aelodau.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI2>

<AI3>

2.1   Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (3 Hydref 2018)

</AI3>

<AI4>

2.2   Llywodraethu a goruchwylio cyrff hyd braich: Diweddariad gan yr Ysgrifennydd Parhaol (25 Medi 2018)

</AI4>

<AI5>

3       Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llywodraeth Cymru

3.1 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn mewn perthynas â chyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18: Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethiant; Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol; a Peter Ryland, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

3.2 Cytunodd Shan Morgan i gymryd cyngor cyfreithiol ynghylch a yw'n bosibl iddi ddatgelu rhagor o wybodaeth am gytundebau prydlesu rhwng Llywodraeth Cymru ac is-ddeiliaid prydlesoedd a fydd yn denantiaid sydd â meddiant.

3.2 Cytunodd Peter Ryland i ofyn i'w gydweithwyr ym maes materion gwledig a yw llysiau a ffrwythau wedi'u plannu, er enghraifft, fel rhan o Brosiect LEADER, a hynny at ddibenion ymateb i unrhyw argyfyngau mewn porthladdoedd a allai effeithio ar nwyddau darfodus sy'n cael eu mewnforio.

 

</AI5>

<AI6>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI6>

<AI7>

5       Craffu ar Gyfrifon 2017-18: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

5.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI7>

<AI8>

6       Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: trafod yr adroddiad drafft

6.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.

</AI8>

<AI9>

7       Blaenraglen Waith

7.1 Nododd yr Aelodau y flaenraglen waith.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>